Manylion
- Dimensiynau gwaelod y lamp: Tua 30cm uchder x 14cm diamedr
- Wedi’i ffitio â chebl defnydd du
- Dimensiynau y lampshêd: 30cm diamedr x 21cm uchder
- Dewisiwch unrhyw leoliad
- Wedi'i wneud â llaw
- Deunyddiau: Lampshêd Cotton Poplin, gwaelod lamp pren Onnen
Gwybodaeth am y Cynnyrch
Lamp hardd pren Onnen efo lampshêd hen fap. Dewisiwch eich lleoliad - unrhyw ddinas, tref, pentref, rhanbarth neu wlad - a byddwn yn gwneud y gweddill. ar lampshêd wedi'i gwneud â llaw. Map lamp i archeb – unigryw i chi!
Gwneir ein gwaelodion lamp prydferth o bren onnen, yn arbennig ar gyfer Gola gan y crefftwr o Ben Llŷn, Miriam Jones. Mae’r cyfuniad o’r gwaelod unigryw hwn gyda’n shêds rhyfeddol ni yn cyfuno i greu cynllun trawiadol ar gyfer y cartref.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n dotio ar fapiau, caru ble maen nhw’n byw, neu ble’r arferen nhw fyw, dyma’r anrheg ddelfrydol. Neu beth am drîtio chi’ch hun ac ychwanegu nodwedd newydd i’ch cartref i’ch atgoffa o rywle arbennig?
Mae gwaith celf y mapiau ar gyfer y lampau yn atgynhyrchiadau o fapiau papur hanesyddol (hanner cyntaf yr 20fed ganrif) a’u ffynonellau ar-lein. Wedi i chi gyflwyno’ch archeb, fe anfonwn ni gwpwl o enghreifftiau o fapiau o fewn 1-2 ddiwrnod gwaith er mwyn i chi gadarnhau eich dewis. Neu cysylltwch â ni i drafod unrhyw agwedd o’r gwaith celf.
Mae’r lampau yma’n fwy nag ychwanegiad i ddécor eich cartref, maen nhw’n drysorau i’w trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
NODIADAU PWYSIG:
- Mae pob un o’n lampshêds wedi’i leinio â chefn gwres-ddiogel sydd wedi ei brofi ac wedi pasio’r prawf gwrid-wifren a hynny gan y Lighting Association.
- Bydd angen bwlb sgriw E27. Max 40W
- Nid yw’r bwlb yn gynwysedig. Argymhellir defnyddio bylbiau ynni isel gyda’n lampau.
- Mae pob gwaelod yn unigryw ac wedi'i wneud â llaw, ac felly gall pob un amrywio fymryn o ran maint a graen y coedyn.
Dosbarthu
Cludiant am ddim
- Gwneir ein holl lampau i archeb. Caniatewch, os gwelwch yn dda, 2-3 wythnos ar gyfer deliferi
Rydym yn delifrio cyn gynted ag y bo modd, hysbyswch ni, os gwelwch yn dda, os oes gennych ddedlein fel y gallwn wneud popeth posib i ymateb iddo.