Tocyn rhodd Gola ar gael - Yr anrheg munud ola perffaith!

Polisi cludiant


I ble ydych chi’n danfon?

Rydym yn danfon i’r DU yn unig. Ond os ydych yn byw tu allan i’r DU ac eisiau archebu cynnyrch gennym, cysylltwch ac fe wnawn ein gorau i wireddu eich dymuniad.

Beth yw’r tâl cludiant?

Mae cludiant yn rhad ac am ddim ar gyfer ein holl gynnyrch.

Pryd fydda i’n derbyn fy archeb?

Mae amser prosesu archebion yn ddibynnol ar y cynnyrch (gweler y cynnyrch penodol), ac mae hyn yn wahanol i’r amser ar gyfer cludiant. Mae cludiant ar gyfer pob cynnyrch yn cymryd 2 i 4 diwrnod busnes. Mae ein harchebion yn cael eu danfon gyda’r Post Brenhinol (2il ddosbarth), gyda pharseli mwy yn mynd gyda Parcelforce neu APC overnight.

Mae ein shêds wedi eu gwneud â llaw ar gyfer archeb benodol. Ar gyfer y rhan fwyaf o shêds (gyda neu heb waelodion lamp) mae hyn yn cymryd wythnos neu ddwy. Ar gyfer lampau unigol fel mapiau neu Crawia mae’r amser prosesu yn codi i bythefnos i dair wythnos. Rhowch wybod os oes gennych ddyddiad penodol ac fe wnawn bopeth y gallwn i gyrraedd y dyddiad yna.

Alla i newid cyfeiriad ar gyfer y cludiant?

Wrth gwrs! Os nad ydych chi wedi derbyn e-bost yn eich hysbysu am yr anfoniad cysylltwch â ni gyda’r cyfeiriad newydd. Os yw’r archeb eisoes wedi ei anfon gallwch ddilyn y ddolen tracio a gofyn am newid cyfeiriad. Ond os yw’r Post Brenhinol yn danfon eich cynnyrch (fel arfer Shêds o dan 40cm diamedr) ni fydd yn bosib newid cyfeiriad unwaith mae o wedi cychwyn ar ei ffordd.

Ble mae fy nghynnyrch?

Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen tracio unwaith y bydd yr archeb wedi ei anfon allan. Os oes yna unrhyw broblem mae croeso i chi gysylltu.

Alla i gasglu fy archeb fy hun yn lle talu am gludiant?

Ar bob cyfri! Mae opsiwn i’w gael i ddod i gasglu’ch archeb o’n shed binc yn Y Felinheli wrth dalu. Os ydych chi’n dewis yr opsiwn ‘Casglu’ fe wnawn ni ddanfon e-bost atoch i ddweud pan fydd y cynnyrch yn barod i’w gasglu.

Beth os nad ydw i’n hoffi’r cynnyrch?

Mawr obeithiwn y byddwch wrth eich boddau efo eich archeb Gola! Ond os derbyniwch eich archeb wedi’i ddifetha yn sgil cludiant, neu os penderfynwch nad ydych eisiau’r archeb bellach, byddwn yn fodlon derbyn yr archeb yn ôl. Gweler ein Polisi ad-dalu.