Amdanom ni

 Gola

Ein Stori

Ganwyd ein busnes lampshêds yn ystod cyfnod clo 2020 wrth i’r ddau ohonon ni ganfod ein hunain yn byw o dan yr un to. Yn eironig llwyddodd y cyfnodau clo i ddatgloi creadigrwydd a mentergarwch yn y ddau ohonon ni. Mae Ifan yn ddylunydd graffeg a Mari yn awdur a chyn Gyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon.

Rhannodd y ddau ohonon ni syniadau yn ystod y cyfnod hwn gan ddechrau busnes o’r enw ‘Gola’ yn creu a chynhyrchu lampshêds unigryw o’n cwt pinc yn yr ardd. Mae pob un o’n shêds wedi’u gwneud â llaw a chariad ac mae hi’n broses rydan ni’n ei thrysori.

Ein nôd

Rhown bwyslais ar wrando ar ein cwsmeriaid gyda’r nod o ddarparu cynnyrch unigryw o’r safon uchaf posib. Anelwn i greu cynlluniau hardd llawn cymeriad; crefftwaith o safon.

Yr enw: Gola

Gola ydi ynganiad Gogledd Cymru o’r gair Cymraeg, golau. Fel cywaith mam a’i mab, cofia Mari’n dda mai un o arwyddion cyntaf cyfathrebu a deall rhwng mam a’i phlentyn oedd gofyn i’r babi: “Lle mae’r gola?” Ac yna’n cael boddhad enfawr o weld ei baban yn edrych fry ar y golau. Rydan ni’n dau’n gobeithio bod ein gola ninnau’n dod â boddhad a gwên i wynebau’n cwsmeriaid hefyd!

Ein hysbrydoliaeth

Gola

Mae’r rhan fwyaf o’n dyluniadau’n dechrau efo “Beth os …?”

Mae tirwedd unigryw Cymru, ei diwylliant, ei hiaith a’i chymunedau yn ein hysbrydoli bob dydd.

Cafodd un o’n dyluniadau ei ysbrydoli gan ein teithiau cerdded dyddiol yn ystod y cyfnod clo. Roedd y llwybrau yma’n gyfarwydd i ni, ond doedden ni erioed wedi sylwi ac edrych go iawn ar yr hyn oedd o’n cwmpas. Dechreuon ni dalu sylw – yn enwedig y ffensys llechi trawiadol ar hyd llwybrau a lonydd cefn ein pentref.

Gelwir y ffensys llechi yma yn ardaloedd Gogledd Orllewin Cymru yn ‘Crawia’. Diffinir y gair ‘craw’ yn geiriadur fel ‘darn o lechen wast’. Mae rhai wedi disgrifio ‘crawia’ fel creithiau. Ond gall creithiau neu’r amherffaith fod yn brydferth ac fe ysbrydolodd y crawia hyn ni i greu dyluniad ar liain ar gyfer ein lampshêds.

Mae llechi yn siapio ein tirwedd; yn tanlinellu pwysigrwydd cynefin; yn adrodd straeon y gorffennol wrth ein hatgoffa ni heddiw ein bod yma o hyd i rannu ein stori. Dyma deyrnged Gola i’r crefftwyr fu wrthi’n eu creu a’u gosod.

Wrth fynd am dro yn ystod y cyfnod clo, fe sylwon ni hefyd ar yr obsesiwn diweddaraf i beintio popeth yn llwyd. Braf oedd gweld lluniau’r enfys yn ychwanegu mymryn o liw yn ffenestri sawl cartref. Ysbrydolodd hyn Gola i annog mwy o liw i’n cartrefi. Pwy feddyliai y byddai dyluniad Crawia mewn oren a phinc yn edrych mor dda?

Mae Gola hefyd yn cael ei ysbrydoli gan grefftwyr eraill yr ardal. Rydan ni’n falch iawn o gydweithio efo’r crefftwr coed o Ben Llŷn: Miriam Jones, sy’n creu’r gwaelodion pren hyfryd yn arbennig ar gyfer Gola.

Ac mae ein cwsmeriaid yn ein hysbrydoli bob dydd wrth anfon eu lluniau o gynnyrch Gola yn eu cartrefi aton ni!

Y cwt pinc

Gola

Mae gan ein cwt pinc olygfeydd godidog dros yr afon Menai ac mae’n lle bendigedig i weithio. Mae cwsmeriaid yn mwynhau ymweld, nid yn unig i weld yr ystod o lampshêds sydd gennon ni, ond hefyd i edmygu ein cwt pinc hyfryd! Mae’r lliw pinc annisgwyl yn rhoi gwên ar wyneb sawl un!

Mae Mari wrth ei bodd yn sgwrsio efo cwsmeriaid, a phan mae’r cwt yn dawel, mae hi’n ffendio’r gwaith o gynhyrchu’r lampshêds yn go therapiwtig!

Ddychmygodd Mari erioed y byddai’r cwt ble byddai ei meibion yn arfer chwarae ping pong yn blant yn troi rhyw ddydd i fod yn ffactri gwneud lampshêds!

Gwarchod ein hamgylchedd

Rydan ni’n ymwybodol iawn o’n cyfrifoldeb i warchod ein cynefin ac i greu cyn lleied o niwed i’n hamgylchfyd a phosib a chymerwn hyn i ystyriaeth gyda’n cynnyrch a’n deunyddiau pacio gan geisio osgoi gwastraff o unrhyw fath. Defnyddir darnau mân sy’n weddill o’n defnyddiau ni i bacio a gwarchod ein lampau in transit.

Rydan ni’n gwerthu gwaelodion gwydr mewn amryw liwiau a’r rhain i gyd yn wydr wedi’u hailgylchu.

Gweler ein hadran Uwchgylchu wrth i ni annog cwsmeriaid i ail-ddefnyddio hen ddefnydd i’w droi’n lampshêd.

Anelwn o hyd i greu cynnyrch sy’n para; yn gynnyrch i’w basio lawr dros y cenhedlaethau. Dydi cynllun da byth yn dyddio!

Mae’r creadigrwydd yma ar y cyd wedi dod â llawenydd mawr i’r ddau ohonon ni a rydan ni’n falch iawn o’n taith cyn belled. Ymunwch â ni ar gam nesaf ein taith! Mi fydd yn hwyl!